Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(58)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 mins) 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 mins) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ymgysylltiad cyflogwyr â Sgiliau (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Strategaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru (30 munud)

</AI4>

<AI5>

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (60 munud)

</AI5>

<AI6>

6. Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) (60 munud) 

NDM4959 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).

Gosodwyd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2011;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar  Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2012.

Dogfennau Ategol
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol

Adroddiad ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Adroddiad ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

</AI6>

<AI7>

7. Dadl ar Strategaeth Cymru ar y newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf (60 munud) 

NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

(a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; a

(b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Gallwch weld Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Llywodraeth Cymru | Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd : Adroddiad cynnydd blynyddol cyntaf

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder:

a) bod y duedd mewn allyriadau Nwyon Ty Gwydr 1990/2009 yn yr adroddiad yn awgrymu na chyrhaeddir y targed o sicrhau gostyngiad o 40 y cant; a

b) mai ar hyn o bryd, dim ond o ganlyniad i’r dirywiad economaidd y mae’n bosibl cyflawni’r targed o 3 y cant o ostyngiad blynyddol.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Ty Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau digonol i gyrraedd ei tharged allyriadau 3 y cant.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon ty gwydr.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>